Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Gorffennaf 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
(20 munud)
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw'r goblygiadau i Gymru yn dilyn y penderfyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal gwaed halogedig?
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (i’w ateb gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth):
Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y swyddi a gaiff eu colli o ganlyniad i'r penderfyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru?
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6365 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a
2. Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
Dogfennau ategol:
Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad
Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad 2015-2017
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at Adam Price (31 Mai 2017)
Llythyr gan Adam Price at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (6 Mehefin 2017)
(60 munud)
NDM6348
David Melding (Canol De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol;
2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o arthritis idiopathig ieuenctid;
3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru;
4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.
Cefnogir gan:
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
(60 munud)
NDM6362 David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi deiseb P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru sydd wedi derbyn 5,383 o lofnodion.
'P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru'
(30 munud)
NDM6363 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cofio Srebrenica
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017